Meddiant Cymdeithas Tai Cantref “yn agored i adolygiad barnwrol”- Plaid Cymru

Mae penderfyniad cyfranddalwyr cymdeithas Tai Cantref i gyfuno â chymdeithas tai Wales a West yn “agored i adolygiad barnwrol” ac fe ddylid “rhoi terfyn” ar y broses- dyna’r neges gan wleidyddion Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price AC a Jonathan Edwards AS, a ddywedodd yr oeddent yn dueddol o gefnogi gweithred o’r fath.

Wythnos diwethaf fe bleidleisiodd bwrdd cyfranddalwyr Tai Cantref i fynd ymlaen gyda’r ddêl gwerth £30 miliwn a fydd yn gweld cymdeithas tai Wales a West yn cymryd rheolaeth o tua 1,800 o eiddo Tai Cantref.

Dywedodd gwleidyddion Sir Gaerfyrddin, sydd yn cynrychioli ardal Castell Newydd Emlyn lle mae Tai Cantref â’i lleoliad, bod yna “rhestr o resymau” y tu ôl i’w galwad i roi terfyn ar y broses a dywedant fod y diffyg ymgynghoriad gyda’r tenantiaid yn geryddus.

Housing

Mae eu rhesymau ynglŷn â’u galwad i roi terfyn ar y broses yn cynnwys:

• Proses tendr amheus lle'r oedd yn ddisgwyliedig i gynigwyr cyflwyno ceisiadau o fewn 7 diwrnod yn unig, yn ogystal â diffyg “trafodaethau rhagarweiniol ynglŷn â’r cyfuniad” i bob cynigwyr posibl.
• Y disgwyliad i denantiaid fyw mewn llety eilradd gyda Safon Ansawdd Tai Cymru heb ei gyrraedd nes 2024- sef 4 mlynedd yn ychwanegol at ddisgwyliad y cwblhad presennol 2012.
• Gwanhad yr iaith Gymraeg yn un o gyflogwyr mwyaf gorllewin Cymru.
• Nid oes dim ymgynghoriad ffurfiol wedi bod gyda’r tenantiaid ynghylch y cyfuno.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Adam Price, bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn esgeulus wrth arolygu a chefnogi Tai Cantref, a fynegodd bydd penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai i ganiatáu i benderfyniad o’r fath mynd ymlaen heb gyfraniad y tenantiaid yn cael ei weld fel symudiad sinigaidd i guddio methiannau llwyr Lywodraeth Cymru.

Yr wythnos hon mi fydd gwleidyddion Plaid Cymru yn cwrdd ag Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin dros Dai i drafod y rôl gall y cyngor cyflawni er mwyn amddiffyn tenantiaid Sir Gaerfyrddin rhag y meddiant hwn.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Joanthan Edwards bod angen i gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ystyried sut y gallant gyd-weithio i herio’r “meddiant mewn popeth ond enw” gan dai Wales a West.

Cynhelir ail bleidlais gan y cyfranddalwyr i gymeradwyo’r meddiant ar 23ain o Awst.

Yn galw ar y cyfranddalwyr i roi terfyn ar y broses, dywedodd yr Aelod Cynulliad, Adam Price:

“Pan roedd awdurdodau lleol yn trafod trosglwyddo eu cyflenwad o dai roedd yn gofyn i’r tenantiaid i bleidleisio i ddewis ffordd o weithredu ffafriedig. Fodd bynnag, yn yr enghraifft yma, nad yw’r ymgynghoriad gyda’r tenantiaid yn bod ac mae’n hollol druenus.

“Rwy’n deall bydd y cyfuniad yn arwain at oedi arwyddocaol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Caiff y tenantiaid eu gorfodi i fyw mewn llety eilradd nes 2024- oedi o rhyw ddeuddeg mlynedd ar y raddfa amser gwreiddiol o 2012.

“Dylid ymgynghori gyda’r tenantiaid o leiaf ynghylch p’un ai ydynt yn barod i dderbyn hyn a chanlyniadau eraill o’r cyfuniad.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn esgeulus wrth arolygu a chefnogi Tai Cantref. Os bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai yn caniatáu i’r cyfuniad mynd ymlaen heb gyfraniad y tenantiaid, caiff ei weld fel symudiad sinigaidd i guddio methiannau llwyr Lywodraeth Cymru.

“Mae modd i Tai Cantref gael dyfodol cadarnhaol iawn; yn wir nad oes dim problemau ynglŷn ag hyfywedd ariannol y sefydliad wedi eu codi. Y cam cyntaf i drawsffurfio’r gymdeithas tai yw i’r cyfranddalwyr ail-feddwl cynigion y meddiant, er mwyn i’r tenantiaid fynegi eu barn, ac i beidio caniatáu eu hunain i gael eu defnyddio i guddio methiannau Llywodraeth Cymru.”

Ychwanegodd yr Aelod Seneddol, Jonathan Edwards:

“Gyda Llywodraeth Cymru yn gwrthod cyhoeddi adroddiad allweddol ynglŷn â’i archwiliad statudol i’r gymdeithas tai; gyda dim ond 7 diwrnod i gyflwyno tendr; ynghyd â sefydliadau dethol yn unig yn cael “trafodaethau rhagarweiniol ynglŷn â’r cyfuniad” cyn y broses cynnig honno, rwy’n pryderu’n fawr am y ffordd mae’r meddiant yma mewn popeth ond enw wedi ei arwain.

“Wrth gwrs nid yw’r pryderon yma ynghylch y broses yn unig, oherwydd bydd gan y meddiant canlyniadau difrifol ar gyflogaeth leol ac ar y defnydd o’r iaith Gymraeg ym mhob peth y gwnaiff.

“Mi fydd Adam Price a minnau yn cwrdd â chynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin ddydd Mercher i drafod sut gall y cyngor, drwy weithio ar y cyd gydag awdurdodau cyfagos, amddiffyn y trigolion rhag y meddiant sydd yn erbyn lles y tenantiaid ac yn erbyn lles gorllewin Cymru.

“Yn y cyfamser byddwn yn annog cyfranddalwyr Tai Cantref i wrthod cynnig y meddiant neu i beryglu’r tebygrwydd o adolygiad barnwrol- gweithred rydym yn dueddol o gefnogi yn gryf.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.