Plaid yn galw am archwiliad annibynnol o wytnwch diogelwch Cymru

cybersecurity.jpg

Mae Plaid Cymru wedi galw am archwiliad annibynnol o wytnwch diogelwch Cymru yn dilyn nifer o ymosodiadau seibr-ddiogelwch ar y sector cyhoeddus a’r ymosodiad terfysgol ym Manceinion a Llundain.

Dywed ymgeisydd y blaid yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, fod degawd o doriadau mewn gwario cyhoeddus wedi gadael ein sector cyhoeddus yn agored i seibr-ymosodiadau ac y dylid archwilio gallu ein gwasanaethau diogelwch i atal anfadwaith terfysgol fel ymosodiad Manceinion a Llundain yn annibynnol, yn hytrach na chynnal archwiliad mewnol.

Trawyd y GIG yn Lloegr gan seibr-ymosodiad byd-eang y mis diwethaf lle mynnodd hacwyr bridwerth wedi torri i mewn i wasanaeth cyfrifiadurol hynafol y gwasanaeth iechyd. Ni effeithiwyd ar y GIG yng Nghymru ond mewn digwyddiad cynharach ym mis Mawrth, cafodd manylion miloedd o staff y GIG yng Nghymru pan haciwyd contractwr preifat.

Rhybuddiodd Plaid Cymru yn 2015 fod bron i 20,000 o gyfrifiaduron y GIG yng Nghymru mewn perygl o gael eu hacio wrth i Microsoft derfynu cefnogaeth i’r system redeg ‘Windows XP’ oedd yn cael ei defnyddio gan y GIG.

Mae arbenigwyr ar derfysgaeth yn awgrymu bod 500 o gynllwynion posib gan derfysgwyr yn erbyn y DG ar waith ar unrhyw un adeg, gyda 3000 o bobl dan wyliadwriaeth gan y gwasanaethau diogelwch. Nodwyd 20,000 o bobl hefyd fel rhai oedd yn cydymdeimlo â’r Wladwriaeth Islamaidd honedig. Mae gwyliadwriaeth lawn ar un unigolyn yn mynnu 24 swyddog mewn dwy shifft 12 awr. Petai’r 3000 o bobl dan amheuaeth yn destun gwyliadwriaeth lawn, byddai angen 72,000 o swyddogion, sy’n dasg amhosib. Byddai archwiliad annibynnol yn edrych i weld pa adnoddau fyddai eu hangen er mwyn cadw Cymru yn ddiogel.

Mae gan Gymru arbenigedd mewn seibr-ddiogelwch ac yn gartref i Academi Genedlaethol Seibr-Ddiogelwch yn ne-ddwyrain Cymru. Cred Jonathan Edwards y dylai Cymru adeiladu ar yr arbenigedd hwn a sicrhau y daw Cymru yn ganolfan ragoriaeth i seibr-ddiogelwch, fyddai nid yn unig yn cryfhau ein hamddiffynfeydd ond hefyd yn creu swyddi o werth uchel, sydd yn talu’n dda.

Meddai Jonathan Edwards:

“Rhaid i gadw Cymru yn ddiogel fod yn flaenoriaeth uchel i ni fel gwleidyddion, ac y mae gofalu bod gan ein gwlad ddigon o adnoddau i allu gwrthwynebu’r bygythiadau a wynebwn yn awr yn y byd cyfoes yn hanfodol.

“Rhybuddiodd Plaid Cymru ddwy flynedd yn ôl fod ein sector cyhoeddus mewn perygl o du seibr-ymosodiadau ac er i GIG Cymru osgoi’r ymosodiad ar Wasanaeth Iechyd Lloegr y tro hwn, yn sicr mae’n rhaid i’n GIG ni a chyrff cyhoeddus eraill gryfhau eu hamddiffynfeydd.

“Mae’r modd yr ydym yn gofalu bod ein gwlad a’i phobl yn ddiogel yn fater sy’n datblygu ac yn moderneiddio’n gyson. Mae’r bygythiadau a wynebwn heddiw yn wahanol o ran natur i’r bygythiadau oedd yn ein hwynebu dair blynedd yn ôl, heb sôn am ddegawd yn ôl. Mae’n amlwg fod cwestiynau i’w gofyn am pa mor barod yw ein gwasanaethau diogelwch i drin bygythiad terfysgaeth, ac fe fuaswn yn cwestiynu ai’r ffordd orau i ateb y cwestiynau hynny yw i’r gwasanaethau diogelwch ymchwilio eu hunain. Rhaid i ni gynnal archwiliad annibynnol i weld pa mor barod a gwydn yw ein gwlad, a faint o adnoddau sydd ganddi.

“Mae arbenigwyr yn awgrymu fod nifer y bobl ar draws y Wladwriaeth Brydeinig sydd yn destun ymchwiliad ar unrhyw un adeg tua 3000 ac yn ychwanegol at hynny, mae rhyw 20,000 o bobl sy’n cydymdeimlo â mudiadau fel y Wladwriaeth Islamaidd honedig. Mae cadw gwyliadwriaeth lawn ar un unigolyn yn gofyn am 24 swyddog mewn dwy shifft 12 awr. Yn amlwg, nid yw’n ymarferol disgwyl i bob unigolyn o ddiddordeb gael ei gadw dan wyliadwriaeth.

“Mae’r Torïaid hefyd yn benderfynol o gwtogi ar ein heddluoedd ar adeg pan ddylid eu cryfhau. Os caiff y Torïaid eu ffordd wedi’r etholiad hwn, bydd heddluoedd Cymru yn waeth eu byd o £32 miliwn y flwyddyn. Rhaid i ni amddiffyn ein heddluoedd rhag y toriad hwn, a’r ffordd orau o wneud hynny yw datganoli’r heddluoedd i Gymru; byddai hyn nid yn unig yn eu hamddiffyn rhag toriadau’r Torïaid ond yn awtomatig yn arwain at hwb o £25 miliwn i’w cyllid bob blwyddyn. Mae hyn yn wahaniaeth o £57 miliwn y flwyddyn.

“Rhaid i ni hefyd archwilio gwytnwch ein sector cyhoeddus yn erbyn seibr-ymosodiadau. Yr ydym yn ffodus i gael y sgiliau yng Nghymru eisoes trwy’r Academi Genedlaethol Seibr-Ddiogelwch a dylem adeiladu ar hynny. Gallwn wneud Cymru yn glwstwr arbenigedd mewn diogelwch digidol - fyddai nid yn unig yn cryfhau ein hamddiffynfeydd rhag seibr-ymosodiadau, ond hefyd yn creu swyddi o werth sydd yn talu’n dda yng Nghymru. Dylai’r Uwch-Gynhadledd Seibr-Ddiogelwch gael ei gynnal yng Nghymru lle mae’r arbenigedd, nid yn Llundain. Fydd y pleidiau Llundeinig fyth yn ystyried defnyddio arbenigedd Cymreig - canolbwyntio ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr yn unig a wnânt hwy. Dyna pam fod arnom angen Plaid Cymru yn San Steffan, i sefyll dros Gymru a gwneud yn siŵr fod Whitehall yn cofio eu bod yno i wasanaethu pedair gwlad, nid un yn unig.

“Yr hyn na ddylem ni wneud yw dal ati fel yr ydym – gan obeithio y gallwn ymdopi pan ddaw ymosodiad arall. Mae archwiliad annibynnol yn gam angenrheidiol wrth bennu pa fesurau sydd eu hangen i gadw Cymru’n saff a diogel.”

DIWEDD


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.