Jonathan: Refferendwm Ewrop - Fy meddyliau cychwynnol

Mae Jonathan Edwards AS yn amlinellu yn y Carmarthen Journal ei feddyliau cychwynnol ar ganlyniad refferendwm yr UE

 

Roedd canlyniad y Refferendwm Ewropeaidd yn siom eithriadol o bersonol i mi. Caiff buddiannau economaidd Cymru eu cyflawni orau fel rhan lawn o’r Undeb Ewropeaidd oherwydd ein heconomi a yrrir gan allforio. Fodd bynnag, rwy’n ddemocrat ac rwy’n derbyn y canlyniad.

Fe bleidleisiodd Sir Gaerfyrddin i Adael, er i’r samplu bocsys yn y cyfrif dynodi bod fy etholaeth i, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi pleidleisio Aros. Fy mlaenoriaeth hollbwysig bellach bydd amddiffyn buddiannau Sir Gaerfyrddin a Chymru yn y storm sydd yn ymddangos.

Roedd yr ymgyrch Aros, dan arweinyddiaeth y Prif Weinidog, yn anhrefn llwyr. Yn gynnar yn yr ymgyrch fe rybuddiais y byddai dibynnu ar dactegau ‘ofn’ yn wrthgynhyrchiol. Hefyd fe rybuddiais drosodd a throsodd bod angen i’r ymgyrch Aros gynnig dewis gwahanol i’r sefyllfa bresennol i ardaloedd dan anfantais. Mae David Cameron yn dactegydd gwleidyddol effeithiol, ond nid yw mor graff yn strategol. Roedd addewid y refferendwm wedi anelu at gadw ei blaid yn unedig ynglŷn ag Ewrop, wrth achub y blaen ar UKIP. Ni feddyliodd am beth fyddai’n digwydd petai’r refferendwm yn colli. Yn bendant, na fydd hanes yn garedig i’r mentrwr gwleidyddol mawr a daeth i ben ei lwcar y cwestiwn fwyaf oll.

Mae Sir Gaerfyrddin a Chymru nawr angen arweinyddiaeth wleidyddol feiddgar, ac roeddwn am rannu fy meddyliau cyntaf â chi.

Mae’n hollbwysig bod Cymru, fel rhan o drafodaethau Brexit, yn sicrhau statws Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Mae fy nghydweithiwr, Adam Price, wedi datguddio ystadegau sy’n dynodi y bydd Cymru yn colli tua 10% o’i gwerth economaidd pe byddwn yn colli mynediad i’r farchnad sengl. Fel cenedl allforio, Cymru bydd yn cael ei tharo gwaethaf o’r oll darnau cydrannol o’r gwladwriaethau Prydeinig.

Fe ddylai Erthygl 50, sydd yn dechrau’r trafodaethau Brexit, cael ei gychwyn yn syth. Nid yw’r ffaith bod yr ymgyrch Gadael bellach yn dweud nad oes ganddynt unrhyw gynllun yn esgus i fwydro. Mae ansicrwydd gwleidyddol yn wenwynig i’r economi. Mae angen i ni fwrw ymlaen â phethau.

Ni all y wladwriaeth Brydeinig barhau yn ei ffurf bresennol. Fy mhrif flaenoriaeth bydd i ddadlau dros undeb o genhedloedd cyfartal. Mi fydd yr Alban yn annibynnol o fewn dwy flynedd. Bydd angen i’r Cymry ddewis os ydynt am fod yn rhanbarth gorllewinol o Loegr neu’n genedl wleidyddol iawn. Rwy’n dewis yr olaf.

Os bod telerau’r ail-drafodaethau mor amlwg yn erbyn buddiannau Cymru, ac yn benodol ddim trefniant AEE, byddaf yn ymgyrchu dros refferendwm cadarnhau er mwyn i’r bobl dweud eu dweud ynglŷn â’r hyn mae gwleidyddion wedi cyflwyno ar eu rhan.

Dyma’r her wleidyddol fwyaf mae Cymru wedi wynebu yn yr hanes modern. Gallaf eich sicrhau fy mod i a fy mhlaid yn barod i gwrdd â’r her hynod anodd sydd o’n blaenau.

Nid yw’n gwlad erioed wedi angen ei phobl i ymuno gyda’i gilydd i frwydro dros ein dyfodol cyffredin. Gofynnaf i chi ymuno â fy mhlaid a minnau yn y bwriad hwnnw.

Jonathan Edwards AS


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.