Plaid yn coffau cyfraniad Gwynfor Evans- mab Sir Gaerfyrddin

Mi fydd y coffâd ers hanner canmlwyddiant etholiad Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, yn cychwyn yr wythnos hon gyda dadl Seneddol wedi ei harwain gan AS presennol Sir Gaerfyrddin, Jonathan Edwards.

Ar noson gynnes o haf yng Nghaerfyrddin yn 1966, fe newidiodd wyneb gwleidyddiaeth Brydeinig am byth. Gwelwyd trofa anferth yn ymgynnull yn Sgwâr Guildhall i weld Gwynfor Evans yn dychwelyd fel yr AS Plaid Cymru gyntaf erioed. Roedd yn ddaeargryn wleidyddol, ac ymhen ychydig amser wedi hynny fe enillodd yr SNP sedd yn yr Alban. Ystyriwyd isetholiad Caerfyrddin ar Orffennaf 14eg 1966 gan lawer fel y fflach wleidyddol a daniodd y daith hir at ddatganoli yn y ddwy wlad.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mi fydd plac ‘bas-relief’ i goffau cyrhaeddiad hanesyddol Gwynfor yn cael ei godi tu allan i’r Guildhall yng Nghaerfyrddin yn ystod dathliad ar ddydd Sadwrn 16eg o Orffennaf.

Mi fydd y coffâd hanner canmlwyddiant yn cychwyn gyda Jonathan Edwards AS, sydd yn cynrychioli’r mwyafrif helaeth o etholaeth wreiddiol Gwynfor Evans heddiw, yn arwain dadl yn Neuadd San Steffan ar ddydd Mawrth 4ydd o Orffennaf i nodi cyfraniad Mr Evans i wleidyddiaeth Cymru.

Gwynfor_Evans_speech.png

Yr wythnos hon, mi fydd ei gydweithiwr etholaeth Adam Price, yr Aelod Cynulliad a chyn AS etholaeth Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn cyflwyno Datganiad Barn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i alluogi cyd-ACau i nodi cyfraniad Gwynfor Evans at sefydlu’r sefydliad.

Dywedodd Jonathan Edwards AS:

“Rhodd Gwynfor oedd ysbrydoli genhedloedd i achos ein gwlad. Mae’r edmygedd tuag at Gwynfor ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol yn dangos ei gyfraniad anferth at greu’r Gymru sydd gennym heddiw.

“Uchelgais Gwynfor i Gymru oedd sicrhau hunanlywodraeth. Roedd ei fuddugoliaeth yn 1966 yn gatalydd i Harold Wilson sefyldlu’r Comisiwn Brenhinol ar Gyfansoddiad y DU- comisiwn a argymhellodd y sefydliad o seneddau deddfwriaethol yng Nghymru a’r Alban.

“Tra mai pleidleisiau’r Cymry wnaeth cyflawni Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y pen draw, nid oes amheuaeth mai etholiad Gwynfor oedd dechrau’r daith tuag at ymreolaeth wleidyddol.

“Un o’i sawl cyrhaeddiad nodedig yn y Senedd oedd herio’r Prif Weinidog Margaret Thatcher i sefydlu’r sianel deledu Cymraeg S4C- cyrhaeddiad enfawr a gaiff ei werthfawrogi ymhellach wrth i S4C baratoi ar gyfer ei hadleoliad i’w chartref yn Sir Gaerfyrddin.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi sicrhau dadl Seneddol i goffau cyfraniad Gwynfor Evans i wleidyddiaeth Cymru a’r cenedligrwydd Cymreig. Adnabyddir Gwynfor yn y senedd fel yr ‘Aelod dros Gymru’- cydnabyddiaeth o’i angerdd ac ymrwymiad i Gymru a’i phobl, ynghyd â chynrychiolaeth o’i ymdrech diysgog i roi Cymru yn gyntaf bob amser.”

Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad Adam Price:

“Gwynfor Evans oedd sylfaenydd y cenedlaetholdeb Cymreig cyfoes. Roedd ei unplygrwydd, huodledd ac ymrwymiad i achos Cymru wedi gosod yr esiampl rydym ni gyd ym Mhlaid Cymru yn ceisio dyheu am.

“Roedd dyfnder ei ymrwymiad ar faterion megis diarfogi niwclear, democrataidd diwydiannol, cydweithrediad cymdeithasol a chytgord rhyngwladol wedi profi yn anodd iawn i nifer o’i gyd ASau o Gymru i drafod. Mewn nifer o ffyrdd Gwynfor Evans oedd eu cydwybod- rhywbeth mae aelodau etholedig Plaid yn parhau i ddarparu i wleidyddion unoliaeth heddiw.

“Trawsffurfiodd etholiad Gwynfor y dirwedd wleidyddol Gymreig. Gweithiodd i weld Cymru yn aelod cyfrifol o’r gymuned ryngwladol, un yn cydnabod y gyd-ddibyniaeth o genhedloedd- pwnc sydd yn flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw.

“Mae’n anrhydedd i’w ddilyn fel AS dros Sir Gaerfyrddin a bellach yn Aelod Cynulliad dros ei hen etholaeth yn y Senedd Cymru roedd Gwynfor wedi cychwyn sefydlu.

“Mae fy Natganiad Barn yn ffordd fach i aelodau Senedd Cymru dangos eu cydnabyddiaeth o gyfraniad Gwynfor i Gymru ac i wleidyddiaeth Gymreig.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.