Jonathan i eistedd ar Bwyllgor Brexit dylanwadol Tŷ'r Cyffredin

Mae Plaid Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio sedd ar Bwyllgor Dethol Gadael yr UE – pwyllgor dylanwadol a elwir hefyd yn Bwyllgor Brexit.

Roedd y blaid wedi ysgrifennu at Arweinydd y Tŷ Cyffredin i’w annog i sicrhau fod y pwyllgor yn cynnwys cynrychiolaeth deg o bob un o bedair cenedl y DG, ac y byddai Plaid Cymru yn cael sedd.

Dywedodd Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a llefarydd Plaid Cymru ar Fasnach Ryngwladol, y byddai’n defnyddio ei sedd ar y pwyllgor i sicrhau y bydd buddiannau Cymru’n cael eu cynrychioli ac na fyddai pobl Cymru’n gorfod dibynnu ar “Brif Weinidog Llafur tawel ac ufudd” i ddadlau eu hachos.

Jonathan_at_Westminster.jpg

Bydd y Pwyllgor yn cynnwys 20 AS – 16 o Loegr, 2 o’r Alban ac 1 o Gymru a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Jonathan Edwards AS, Aelod Plaid Cymru o’r Pwyllgor Brexit:

“Mae’n hanfodol fod Cymru’n cael ei chynrychioli ar y pwyllgor pwysig hwn ac rwy’n falch fod ymdrechion i sicrhau hynny wedi bod yn llwyddiannau. Bydd gan Gymru nawr lais yn y cyfnod allweddol hwn i ddyfodol ein gwlad a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau fod ein buddiannau’n cael eu gwarchod a’i hyrwyddo yn ystod gwaith y pwyllgor ar Brexit.

“Mae gan Gymru anghenion unigryw am fod ein heconomi’n cael ei gyrru gan allforion a manwerthu – rhywbeth nad yw’n wir am weddill y DG. Mae ein masnach gyda dim ond gwledydd yr UE ynghlwm a 200,000 o swyddi ac rydym yn masnachu hyd yn oed yn fwy gyda gwledydd y tu allan i’r UE na’r tu mewn iddi.

“Rwy’n parchu canlyniad y refferendwm ac yn derbyn y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n hanfodol nad yw Cymru’n colli ei haelodaeth o’r farchnad sengl o ganlyniad. Mae ffactor sydd cyn bwysiced â’n masnach gyda’r farchnad sengl sef y masnach rydd yr ydym yn elwa ohono o ganlyniad i 53 cytundeb masnach y farchnad honno gyda gwledydd eraill ledled y byd. Byddai colli hynny’n niweidiol tu hwnt i’n heconomi – rhywbeth na all Cymru ymdopi ag e am ein bod eisoes wedi dioddef tranc ein diwydiannau.

“Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi awgrymu y bydd hi’n ceisio sicrhau cytundebau arbennig i’r bancwyr yn Ninas Llundain, felly nid oes rheswm pam na all hi barchu anghenion unigryw Cymru a sicrhau cytundeb tebyg i ni. Dyna un o’r pethau cyntaf y byddaf yn gwthio amdanynt pan fydd y pwyllgor yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.

“Rwy’n falch y bydd gan Gymru lais o’r diwedd, a gwrthwynebiad effeithiol i agenda Thatcheraidd adain-dde San Steffan, yn hytrach na gorfod dibynnu ar y Prif Weinidog Llafur tawel ac ufudd yng Nghaerdydd.”

DIWEDD


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.